Shop Volunteer (Gwirfoddolwr Siop - Sunday / Dydd Sul - Conwy)

Opportunity image

Amdanom ni

Dechreuodd siopau’r RNLI fel stondinau cacennau syml, a gynhaliwyd gan wirfoddolwyr a’u cefnogwyr i godi arian i’r badau achub a’r gorsafoedd lleol. Dechreuodd y stondinau hyn werthu cynhyrchion i goffáu’r RNLI tua 1920, gan symud ymlaen yn gyflym i werthu swfenîrs a chardiau Nadolig. Agorodd y siop gyntaf a oedd yn rhan o orsaf go iawn ym 1990.

Erbyn heddiw, rydym yn gweithredu 160 o siopau’r RNLI ac mae’r nifer yn cynyddu. Mae’r siopau wedi’u lleoli mewn ardaloedd mewndirol ac arfordirol ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Maen nhw’n denu bron 1 filiwn o ymwelwyr y flwyddyn ac yn gwerthu amrywiaeth ragorol o gynhyrchion unigryw am bris cystadleuol, yn amrywio o jam i ddillad, a chylchau allweddi i fadau model, a’r cyfan i godi arian hollbwysig ar gyfer ein haelodau criw a’n hachubwyr bywyd gwirfoddol.

I lawer o bobl, prynu rhywbeth yn un o siopau’r RNLI fydd y tro cyntaf iddynt ddod i gysylltiad â’n Helusen, ac fe allech chi, fel gwirfoddolwr siop, fod yr unigolyn sy’n eu hannog nhw i’n cefnogi ni nawr, ac yn y dyfodol.

Yr effaith y byddwch yn ei chael

Byddwch yn helpu achub bywydau ar y môr trwy gynhyrchu arian hollbwysig, yn ogystal â hyrwyddo gwaith yr RNLI i gwsmeriaid a chodi ymwybyddiaeth o negeseuon diogelwch allweddol.

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

  • Cynnal y siop yn ddidrafferth o ddydd i ddydd, gan gynnal amgylchedd diogel a rhoi gwybod i reolwyr llinell am unrhyw faterion.

  • Cynnig profiad siopa gwych, gan greu amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.

  • Gweithredu’r til (gan gynnwys cyfrif arian ar ddiwedd y dydd) a’r peiriant cerdyn.

  • Hyrwyddo’r RNLI, ei negeseuon allweddol a’i ethos Un Criw, a hybu ei enw da yn yr ardal leol.

Yr hyn y bydd arnoch ei angen ar gyfer y rôl hon

  • Brwdfrydedd.
  • Sgiliau cyfathrebu da a natur gyfeillgar.
  • Y gallu i gyfrannu yn rhan o dîm.
  • Hyder wrth drin arian.
  • Yn gyfforddus yn gwirfoddoli mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid.

Yr hyn y byddwch yn ei gael

  • Ymuno â sefydliad cynhwysol ac amrywiol
  • Cael hwyl, cyfarfod â phobl newydd ac ymuno â thîm brwdfrydig ac uchel ei gymhelliad sy’n gwneud gwahaniaeth
  • Dysgu sgiliau a chael profiad i wella’ch CV
  • Cael boddhad trwy roi rhywbeth yn ôl
  • Bydd hyfforddiant i gyflawni’ch rôl wirfoddoli yn cael ei ddarparu a bydd mân dreuliau rhesymol yn cael eu had-dalu

About Us

The RNLI shops started life as simple cake stalls, run by volunteers and their supporters to raise money for the local Lifeboats and stations. These stalls started selling commemorative RNLI products in around 1920 and quickly moved on to selling souvenirs and Christmas cards. The first shop to be run as part of an actual station opened in 1990.

Today we operate 160 RNLI shops and this number is growing, based inland and on the coast across the UK and Ireland, attracting almost 1 million visitors every year selling an excellent range of unique and competitively priced products ranging from jam to clothing, and key rings to model boats, all to raise vital funds for our volunteer crew members and lifeguards.

For many people, buying something from an RNLI shop will be the first time that they come into contact with our Charity, and as a shop volunteer you could be the person that engages them to support us now, and in the future.