Water Safety Adviser (Cynghorydd Diogelwch Dŵr - Gorsaf Bad Achub Dinbych-y-Pysgod / Tenby Lifeboat Station)

Opportunity image

The RNLI is the charity that saves lives at sea, but it’s not limited to launching a lifeboat or providing lifeguards to save lives.

The Water Safety Team contributes to the RNLI’s vision of saving everyone, by developing Water Safety Lifesaving Plans; delivering interventions, sharing lifesaving messaging and working with Partners to help influence improved water safety behaviour of the public. The aim is to reduce the number of preventable deaths and incidents that occur within local coastal and inland waterway environments.

The Water Safety Adviser is part of the team contributing towards the local Water Safety Lifesaving Plan by going into the community and delivering RNLI water safety advice. Part of this role is to identify local risks and work with partners to deliver targeted interventions.

This role is for somebody with a passion for encouraging people to be safe on, in and around the water, who has good communication and people skills. Some experience of public speaking is helpful or the desire to gain skills and confidence in this area.

If you would like to join a friendly, dedicated, motivated team and you fit the criteria, we would like to hear from you.

If you would like to find out a little more please follow this link: Water Safety Volunteering Video

Mae’r RNLI yn elusen sy’n achub bywydau ar y môr, ond nid yw achub bywydau yn gyfyngedig i lansio bad achub neu ddarparu achubwyr bywyd.

Mae’r Tîm Diogelwch Dŵr yn cyfrannu at weledigaeth yr RNLI o achub pawb drwy ddatblygu Cynlluniau Achub Bywydau Diogelwch Dŵr, darparu ymyriadau, rhannu negeseuon achub bywyd a gweithio gyda phartneriaid i helpu i ddylanwadu ar wella ymddygiad y cyhoedd o ran diogelwch dŵr. Y nod yw lleihau nifer y marwolaethau a’r digwyddiadau y gellir eu hatal sy’n digwydd mewn amgylcheddau arfordirol a mewndirol lleol.

Mae’r Cynghorydd Diogelwch Dŵr yn rhan o’r tîm sy’n cyfrannu at y Cynllun Achub Bywydau Diogelwch Dŵr lleol drwy fynd allan i’r gymuned a darparu cyngor diogelwch dŵr yr RNLI. Rhan o’r rôl yw nodi risgiau lleol a gweithio gyda phartneriaid i ddarparu ymyriadau wedi’u targedu.

Mae’r rôl hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n angerddol am annog pobl i fod yn ddiogel ar, yn ac o amgylch y dŵr, ac sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio da. Mae rhywfaint o brofiad o siarad yn gyhoeddus yn ddefnyddiol, neu awydd i ddatblygu sgiliau a hyder yn y maes hwn.

Os hoffech ymuno â thîm cyfeillgar, ymroddedig a brwdfrydig, a’ch bod yn bodloni’r meini prawf, hoffem glywed gennych.

Os hoffech gael gwybod ychydig mwy, dilynwch y ddolen hon: Gwirfoddolwyr Diogelwch Dŵr