Water Safety Officer (Swyddog Diogelwch Dŵr - Gorsaf Bad Achub Dociau'r Barri / Barry Dock Lifeboat Station)

Opportunity image

The RNLI is the charity that saves lives at sea, but it’s not limited to launching a lifeboat or providing lifeguards to save lives.

The Water Safety Team contributes to the RNLI’s vision of saving everyone, by developing Water Safety Lifesaving Plans; delivering interventions, sharing lifesaving messaging and working with Partners to help influence improved water safety behaviour of the public. The aim is to reduce the number of preventable deaths and incidents that occur within local coastal and inland waterway environments.

The Water Safety Officer is a pivotal role in that you would be involved in the design and implementation of the Water Safety Lifesaving Plan. You would be liaising closely with the local Lifeboat Operations Team, Area Lifesaving Manager, and coordinating the local Water Safety team. A Water Safety Lifesaving Plan is designed to identify “at risk” groups to reduce fatalities and serious incidents. You will collaborate with partners and your team to create targeted interventions and assess how effective they are.

This is a great volunteer opportunity for someone who can work confidently within the RNLI while also leading a small team and operating independently when needed.

If you would like to join/lead a friendly, dedicated, motivated team and you fit the criteria, we would like to hear from you.

Please note: successful applicants will be required to undergo vetting and reference checks prior to starting this role.

If you would like to find out a little more, please follow this link: Water Safety Volunteering Video

Mae’r RNLI yn elusen sy’n achub bywydau ar y môr, ond nid yw achub bywydau yn gyfyngedig i lansio bad achub neu ddarparu achubwyr bywyd.

Mae’r Tîm Diogelwch Dŵr yn cyfrannu at weledigaeth yr RNLI o achub pawb drwy ddatblygu Cynlluniau Achub Bywydau Diogelwch Dŵr, darparu ymyriadau, rhannu negeseuon achub bywyd a gweithio gyda phartneriaid i helpu i ddylanwadu ar wella ymddygiad y cyhoedd o ran diogelwch dŵr. Y nod yw lleihau nifer y marwolaethau a’r digwyddiadau y gellir eu hatal sy’n digwydd mewn amgylcheddau arfordirol a mewndirol lleol.

Mae rôl Swyddog Diogelwch Dŵr yn un hollbwysig, gan ei bod yn ymwneud â dylunio a gweithredu’r Cynllun Achub Bywydau Diogelwch Dŵr. Byddech yn cydweithio’n agos â’r Tîm Gweithrediadau Badau Achub lleol a’r Rheolwr Achub Bywydau Ardal, yn ogystal â chydlynu’r tîm Diogelwch Dŵr lleol. Mae Cynllun Achub Bywydau Diogelwch Dŵr wedi’i gynllunio i nodi grwpiau sydd “mewn perygl”, gyda’r nod o leihau nifer y marwolaethau a’r digwyddiadau difrifol. Byddech yn cydweithio â phartneriaid a’ch tîm i greu ymyriadau wedi’u targedu ac hefyd yn asesu pa mor effeithiol ydynt.

Mae hwn yn gyfle gwirfoddoli gwych i rywun sy’n gallu gweithio’n hyderus o fewn yr RNLI, tra hefyd yn arwain tîm bach ac yn gweithio’n annibynnol pan fo angen.

Os hoffech ymuno â thîm cyfeillgar, ymroddedig a brwdfrydig, a’ch bod yn bodloni’r meini prawf, hoffem glywed gennych.

Sylwch: bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â gwiriadau fetio a chyfeiriadau cyn dechrau yn y rôl hon.

Os hoffech gael gwybod ychydig mwy, dilynwch y ddolen hon: Gwirfoddolwyr Diogelwch Dwr